Summer Conference

SUMMERCONFERENCE- Christian Conference in Cardiff

Title: Dros bechadur buost farw

Date: 31/07/2009 (Other)

Speaker: Congregation

Bible Reference: Summer Conference Hymn

Description:

Dros bechadur buost farw,
Dros bechadur, ar y pren,
Y dioddefaist hoelion llymion,
Nes it orfod crymu pen;
Dwed i mi, ai fi oedd hwnnw
Gofiodd cariad rhad mor fawr —
Yn Gehenna boeth i lawr?

Dwed i mi, a wyt yn maddau
Cŵympo ganwaith i’r un bai?
Dwed a ddeuai byth i galon
Na all gynnig ‘difarhau?
Beth yw pwysau’r beiau mwyaf
A faddeui? — o ba ri’?
Pa un drymaf yw fy mhechod
Ai griddfannau Calfari?

Arglwydd, rhaid i mi gael bywyd;
Mae fy meiau yn rhy fawr,
Fy euogrwydd sy’n cydbwyso
 mynyddoedd mwya’r llawr:
Rhad faddeuant, gwawria bellach,
Gwna garcharor caeth yn rhydd,
Fu’n ymdreiglo mewn tywyllwch,
‘N awr i weled golau’r dydd.