

Title: Daeth ffrydiau melys iawn
Date: 31/07/2009 (Other)
Speaker: Congregation
Bible Reference: Summer Conference Hymn
Description:
Daeth ffrydiau melys iawn
Yn llawn fel lli
O ffrwyth yr arfaeth fawr
Yn awr i ni;
Hen iechawdwriaeth glir
Aeth dros y crindir cras;
Bendithion amod hedd —
O! ryfedd ras!
Fe gymerth Iesu pur
Ein natur ni;
Enillodd Ef i’w saint
Bob braint a bri:
Gadawai’r nef o’i fodd,
Cymerodd agwedd gwas;
Ffrwyth y cyfamod hedd —
O! ryfedd ras!
Fe gymerth Iesu blaid
Truneiniaid trist;
Ysigodd ben y ddraig;
Ein craig yw Crist:
Cawn ninnau fod yn bur
Uwch cur a phechod cas,
Yn berffaith ar ei wedd —
O! ryfedd ras!
Yn rawnwin, ar y groes,
Fe droes y drain;
Caed balm o archoll ddofn
Y bicell fain;
Dechreuwn fawl cyn hir,
Na flinir ar ei flas,
Am Iesu’r aberth hedd —
O! ryfedd ras!
Listen to Recording
You can either download this recording or listen to it straight away online.
Download this recording to your computer (right click, then 'save target as')
Or click on 'play' below to listen now.